O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun sy’n nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg.
Dyma ein cynllun
Mae’n disgrifio sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, cyn belled â’i fod yn briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, sef y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.